Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mawrth 2012

 

 


Confensiynau gweithredu pwyllgorau wrth ystyried deddfwriaeth

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad wrth gynnal ei fusnes.

Ar 6 Mawrth 2012, bu i’r Pwyllgor Busnes adolygu’r confensiynau a oedd yn bodoli ar gyfer pwyllgorau deddfwriaeth y Trydydd Cynulliad gan ystyried sut y gellir defnyddio’r rhain yn strwythur pwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad.   

Mae’r pwyllgorau pwnc a sefydlwyd yn y Pedwerydd Cynulliad yn gyfrifol am graffu ar waith y llywodraeth ac am Gyfnodau 1 a 2 unrhyw Filiau Cynulliad sydd yn eu meysydd polisi.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r pwyllgorau pwnc ddilyn y confensiynau isod wrth ystyried Biliau’r Cynulliad. Mae’r rhain yn ychwanegol at ddarpariaethau Rheol Sefydlog 17:

1) Yr Aelod sy’n gyfrifol

Bydd y Cadeirydd yn rhoi caniatâd i’r Aelod sy’n gyfrifol am Fil Cynulliad fynd i bob cyfarfod perthnasol a chymryd rhan mewn trafodion, ond ni fydd modd iddo bleidleisio. Bydd gwelliannau sy’n cael eu cyflwyno gan yr Aelod sy’n gyfrifol bob amser yn cael eu cynnig (yn ffurfiol gan y Cadeirydd os nad oes aelod arall o’r pwyllgor yn gwneud hynny).


2) Rhan y Gweinidog Perthnasol (Biliau Aelod a Biliau’r Pwyllgor)

O safbwynt Biliau Aelod a Biliau’r Pwyllgor, bydd caniatâd i’r Gweinidog (neu i’r Dirprwy Weinidog) perthnasol fynd i bob cyfarfod perthnasol a chymryd rhan mewn trafodion, ond ni fydd modd iddo bleidleisio. Bydd gwelliannau sy’n cael eu cyflwyno gan y Gweinidog bob amser yn cael eu cynnig (yn ffurfiol gan y Cadeirydd os nad oes aelod arall o’r pwyllgor yn gwneud hynny).